Athro/awes Gwyddoniaeth a Mathemateg
Llawn amser am flwyddyn
Graddfa Gyflog Athrawon
ar gyfer Medi 2025
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus sydd â “naws deuluol Gymreig ac ethos cryf o
weithio fel tîm sydd yn treiddio’r holl ysgol” (Estyn, 2023). Mae gennym dîm brwdfrydig a thalentog o staff sydd yn
ymroi’n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad ein dysgwyr. Chwiliwn felly am berson
blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu o fewn yr adrannau gwyddoniaeth a
mathemateg. Mae’r adrannau yn cyfrannu at addysgu llwyddiannus yr ysgol, gan gynllunio a darparu gwersi o
safon uchel. Mae gan yr adrannau dimau llwyddiannus a phrofiadol o staff sydd yn cefnogi’i gilydd ac yn anelu am y
gorau o’n dysgwyr a thanio’u brwdfrydedd yn y pwnc. I’r rheiny sydd â diddordeb pontio o’r sector cynradd bydd
hefyd cyfle i ddysgu pwnc arall i ddysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 er mwyn cadw amrywiaeth a manteisio ar
arbenigedd yr unigolyn.
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw unig ysgol gyfun Gymraeg sir Pen-y-bont ar Ogwr ac mae gennym
weledigaeth clir a safonau uchel. “Mae gan yr arweinwyr ddarlun cynhwysfawr o’r cryfderau a’r meysydd i’w
gwella yn yr ysgol a maent yn uchelgeisiol ac yn cynllunio’n ofalus ar gyfer gwelliannau” gan gynnig “rhaglen
gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff” (ESTYN, 2023). Lleolir yr ysgol i’r de o
bentref hanesyddol Llangynwyd, llai na 10 munud o gyffordd 36 yr M4. Mae iddi gysylltiadau rhwydd a pharod o
Abertawe i’r gorllewin (llai na 30 munud) a Chaerdydd i'r dwyrain (25 munud).
Mae hwn yn gyfle arbennig i gychwyn, neu ddatblygu gyrfa a chymryd rhan blaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan
gan fodloni blaenoriaethau cenedlaethol.
Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:
• meddu ar gymwysterau a/neu brofiad priodol ar gyfer addysgu gwyddoniaeth a mathemateg mewn ysgol
uwchradd;
• meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
• meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
• gallu gweithio fel rhan o dîm;
• dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol dysgwyr drwy weithgareddau allgyrsiol;
• ymrwymo’n llawn i gynllun datblygiad proffesiynol parhaus yr ysgol ac ymgymryd â gwaith ymchwil
personol fel rhan o’r safonau proffesiynol newydd.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lawr lwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach ac
os ydych am sgwrs anffurfiol, croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael siarad ag aelod o’r Uwch Dîm Arwain.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun, 5 Fai 2025 am 9am.
This is an advertisement for the post of a full-time mathematics teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate
fluently in Welsh is essentia