Mae Llywodraethwyr Ysgol Heronsbridge yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant, gofalgar, ymrwymedig a brwdfrydig â phrofiad sylweddol o addysgu mewn ysgolion ADY i arwain adran fawr mewn ysgol arbennig â dilyniant oedran. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, bydd yn meddu
ar brofiad rheoli ac wedi addysgu plant ag anableddau dysgu difrifol gan gynnwys y rhai ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n gallu:
Cyflawni rhaglen briodol o addysgu yn unol â dyletswyddau athro/athrawes graddfa safonol
Rheoli'r adran o ddydd i ddydd
Codi safonau cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion ar draws yr adran gyfan a monitro a chynorthwyo cynnydd disgyblion
Bod yn atebol am gynnydd a datblygiad disgyblion yn y meysydd pwnc
Datblygu a gwella arfer addysgu eraill
Darparu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol ac wedi'i wahaniaethu i ddisgyblion sy'n astudio yn yr adran, yn unol â nodau'r ysgol a'r polisïau cwricwlaidd a benderfynwyd gan y Corff Llywodraethu a'r Pennaeth
Bod yn atebol am arwain, rheoli a datblygu'r cwricwlwm, gan gefnogi datblygu a gwireddu Cwricwlwm Cymru
Rheoli a defnyddio staff addysgu/cymorth, adnoddau ariannol a ffisegol yn yr adran yn effeithiol i gynorthwyo'r cynllun gwella ysgol a'r cynllun datblygu adrannol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Heronsbridge yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.