Swyddog Cyswllt rhwng y Cartref a'r Ysgol - Ysgol Bryn Castell

Cyflogwr
Ysgol Bryn Castell
Lleoliad
Brynmenyn, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
22nd Ebrill 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1543598
Cyfeirnod y swydd
18491
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1543598
37 awr yr wythnos

Tymor yr Ysgol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Swyddog Cyswllt rhwng y Cartref a'r Ysgol i weithio gyda chymuned Ysgol Bryn Castell i hyrwyddo presenoldeb, ymgysylltu, diogelu a llesiant disgyblion gan eu cefnogi i weithio tuag at gyflawni hunanreoli ac annibyniaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dull cadarnhaol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar atebion i gefnogi a darparu gofal arbenigol, cymorth ac arweiniad i ddisgyblion sydd ag ymddygiad cymhleth a heriol a'u rhieni, eu gofalwyr a'u teuluoedd.

Mae Ysgol Bryn Castell (YBC) yn ysgol gymunedol arbennig a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n darparu addysg i ddisgyblion 7 - 19 oed sydd ag Anawsterau Ymddygiad, Emosiynol a Chymdeithasol (AYECh) cymhleth gan gynnwys awtistiaeth ochr yn ochr ag anawsterau dysgu penodol ac anghenion dysgu ychwanegol eraill.

Croesewir ceisiadau gan gydweithwyr sy'n dymuno ehangu eu taith ddysgu broffesiynol mewn amgylchedd gofalgar a chynhwysol sy'n angerddol am alluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial llawn.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:
  • Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gostyngiadau gan fanwerthwyr mawr.
  • Mae pob cyflogai'n gymwys i gael aelodaeth am bris gostyngol yn Hamdden Halo sy'n rhoi mynediad diderfyn i ganolfannau Hamdden Halo ar draws y fwrdeistref sirol
  • Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.
  • Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.
  • Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 22 Ebrill 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Wythnos yn gorffen 23 Ebrill 2026

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 29 Ebrill 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Bryn Castell yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.