NEW

Swyddog Cymorth Dysgu & Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Gynradd Croesty

Cyflogwr
Croesty Primary School
Lleoliad
Pencoed, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
3rd Mehefin 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1554485
Cyfeirnod y swydd
18711
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1554485
18 awr yr wythnos

Tymor yr Ysgol

Dros dro hyd at 1 flwyddyn

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Croesty yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i ymuno â thîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Dysgu, yn ogystal â Swyddog Cymorth Dysgu a allai weithio fel Goruchwyliwr Llanw. Mae ein staff cymorth yn rhan hanfodol o'n timau ystafell ddosbarth ac mae llawer ohonynt hefyd yn gweithio fel Goruchwylwyr Llanw ar sail wrth gefn am ran o'r wythnos gan ddarparu gwasanaeth CPA. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr a fyddai hefyd yn hyderus ac yn barod i ymgymryd â'r gwaith hwn yn ôl yr angen. Mae Disgrifiad Swydd y Goruchwyliwr Llanw hefyd wedi'i gynnwys felly cyfeiriwch at hyn yn eich cais, lle y bo'n berthnasol.

Rydym yn ystyried penodiadau ar gyfer mwy nag un swydd yn yr ysgol, felly mae gennym ddiddordeb mewn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad o wahanol oedrannau o fewn yr ystod gynradd.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein staff yn cael cyfleoedd i adeiladu ar eu diddordebau, eu sgiliau a'u profiad presennol a dod yn aelodau gwerthfawr a gweithgar o gymuned ein hysgol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 03 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 08 Mehefin 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Croesty Primary School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.