Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol Wrth Gefn - Ysgol Gynradd Sant Roberts

Cyflogwr
St Mary's Catholic Primary
Lleoliad
Bridgend, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
12.85 per hour
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
3rd Medi 2025 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1503044
Cyfeirnod y swydd
17789
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1503044
Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol Wrth Gefn - Ysgol Gynradd Sant Roberts
Disgrifiad swydd
Tymor yr Ysgol

Gan ddarparu prydau i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i 56 o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo amrywiaeth o gyfleoedd i chi weithio fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ar draws eu gwasanaeth a hoffent glywed gennych.

Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel, glân i ddisgyblion a staff. Bydd yn ofynnol i chi osod byrddau a chadeiriau bwyta ac, mewn rhai ysgolion, gall fod yn ofynnol gweithredu terfynell sgrin gyffwrdd - rhoddir hyfforddiant wrth ddechrau.

Mae cwmpasu ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn un o ofynion y rôl yn ogystal â chael Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Dau; darperir hyfforddiant os bydd angen i'ch helpu i gyflawni hyn.

Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cadarnhau ar ôl penodi ond byddant rhwng 10.00am a 2.30pm, i gefnogi'r cyfnodau egwyl canol bore ac amser cinio, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Emma Bennett ar 01656 815964 a fydd yn croesawu eich cais.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 03 Medi 2025

Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 05 medi 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 08 Medi 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae St Mary's Catholic Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.