Cynorthwyydd Cymorth Arbennig
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Amser tymor
Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio Darpariaeth Amgen y Bont yn ddarpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran cynradd ac uwchradd sydd ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol. Mae'r Bont yn ceisio penodi Cynorthwyydd Cymorth Arbennig Gradd 4 i weithio ar draws y ddarpariaeth gyfan. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd roi cymorth i ddisgyblion ag anghenion ESBD, gan hyrwyddo a chynorthwyo'r broses o'u hailintegreiddio yn ôl i'r brif ffrwd lle y bo'n briodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 13 Awst 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 21 Awst 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 03 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Datganiad Diogelu:
Mae Inclusion Service Bridgend County Borough Council yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.