NEW

Athro - Ysgol Gynradd Bracla (Dros Dro)

Cyflogwr
Brackla Primary
Lleoliad
Brackla, Bridgend
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
24th Ebrill 2026 12:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1544055
Cyfeirnod y swydd
18505
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1544055
32.5 awr yr wythnos

Dros dro o fis Medi 2026 hyd at fis Awst 2027.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Bracla yn dymuno penodi athro/athrawes gynradd llawn cymhelliant a chreadigol sydd â phrofiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd.

Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:

- angerddol am addysgu a dysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel.

- meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r cwricwlwm cynradd.

- gallu cydweithio fel rhan o dîm.

- meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych.

- dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

- dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth gynllunio a chyflwyno gwersi.

cymryd rhan weithredol yng nghymuned yr ysgol a chefnogi ei hethos.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.

Cysylltwch âr ysgol i gael rhagor o fanylion am y swydd.

Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 24 Ebril 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Ebril 2026

Arsylwadau gwersi i'w trefnu rhwng 29 Ebrill - 8 Mai 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 12 Mai 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Brackla Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.