Dros dro hyd at 1 flwyddyn
Mae Corff Llywodraethu Ffederasiwn Cwm Garw yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant ac ysbrydoledig sy'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar draws ein hysgolion ffederasiwn.
Bydd y swydd hon wedi'i lleoli i ddechrau yn Ysgol Gynradd Ffaldau am gyfnod o flwyddyn.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes
ddosbarth
sy'n datblygu perthnasoedd effeithiol iawn â phob aelod o'r gymuned ysgol ac sy'n dangos ymrwymiad diwyro i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bob dysgwr ar draws y ffederasiwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a bydd yn angerddol, yn uchelgeisiol, yn hunanfyfyriol ac yn frwdfrydig, gan gyfrannu at ein cymuned ysgol hapus, lwyddiannus a chynhwysol. Bydd yn ymrwymedig i ymgysylltu â theuluoedd a chyfrannu at ein dull cryf o ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned.
Bydd yn darparu profiadau ysbrydoledig i ddysgwyr sy'n eu galluogi i ddod yn unigolion annibynnol, chwilfrydig, myfyriol, cydweithredol a gwydn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â chydweithwyr ar draws Ffederasiwn Cwm Garw i gynllunio a darparu cyfleoedd dysgu cyffrous i ddisgyblion, cefnogi arferion asesu effeithiol a chymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ar y cyd i ddatblygu ei ymarfer yn barhaus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael budd o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol o ansawdd uchel. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm ffyniannus a chefnogol o staff, arweinwyr a llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Ffaldau ac o fewn Ffederasiwn Cwm Garw.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 04 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ffaldau Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.