ENDING SOON

Athro/athrawes â chyfrifoldeb CADY Cyfnod Cynradd

Cyflogwr
Nantymoel Primary
Lleoliad
Nantymoel, Bridgend
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
24th May 2025
Yn dod i ben
3rd Mehefin 2025 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1486776
Cyfeirnod y swydd
17498
Dyddiad cychwyn
24th May 2025
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1486776
Athro/athrawes â chyfrifoldeb CADY Cyfnod Cynradd
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Nantymoel yn dymuno penodi athro/athrawes ysgol gynradd llawn cymhelliant, creadigol ac ysbrydoledig sydd â phrofiad o addysgu ar draws y sector cynradd i ymuno â'n tîm cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol.

Rydym yn chwilio am ymarferydd eithriadol sy'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned ysgol ac a fydd yn dangos ymrwymiad diwyro i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl i bob un o'n disgyblion.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth a byddant yn angerddol, yn uchelgeisiol, yn hunanfyfyriol ac yn frwdfrydig i gyfrannu at ein cymuned ysgol hapus, lwyddiannus a chynhwysol. Byddant yn darparu profiadau dysgu ysbrydoledig i'n disgyblion sy'n eu galluogi i ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, chwilfrydig, myfyriol, cydweithredol, a gwydn. Bydd angen iddynt ddangos disgwyliadau uchel o ran cyflawniad, safonau ac ymddygiad ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm ymroddedig a bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.

Rydym yn ceisio penodi athro/athrawes ragorol i gymryd cyfrifoldeb am CADY a dod yn aelod o dîm arweinyddiaeth yr ysgol. Rydym yn ceisio recriwtio athro/athrawes i ddatblygu rhagoriaeth yn effeithiol mewn dysgu ac addysgu a llesiant ein disgyblion ADY. Rydym yn gwerthfawrogi pob aelod o gymuned ein hysgol ac yn ennyn awydd yn ein disgyblion i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o'n disgyblion a'n staff ac rydym yn falch o'n disgyblion a'r gymuned ddysgu gefnogol a chynhwysol rydym wedi'i chreu.

Os mai chi yw'r CADY rydym yn chwilio amdano, byddwch yn:

Arwain, rheoli a chydlynu datblygiad strategol Darpariaeth Dysgu Ychwanegol yr ysgol ar gyfer pob dysgwr ag ADY.

Bod yn gyfrifol am gynnydd, canlyniadau a llesiant ein dysgwyr ADY a gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth ADY a chynnydd disgyblion ar draws yr ysgol.

Cysylltu â staff, rhieni ac asiantaethau allanol i ddarparu'r cymorth mwyaf posibl a sicrhau parhad y ddarpariaeth.

Byddwch yn barod i gymryd rhan weithredol mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol cydweithredol a hyrwyddo cydweithredu effeithiol ar draws yr ysgol.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol sydd â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her, rydym yn croesawu eich cais.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 3 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Datganiad Diogelu:

Mae Nantymoel Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.