Athro Cynradd ac
Arweinydd Profiadau Allgyrsiol, Diwylliant a Chysylltiadau Cymunedol
Ebrill 2024
Swydd: Athro Cynradd ac Arweinydd Profiadau Allgyrsiol, Diwylliant a Chysylltiadau Cymunedol
Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2 - UPS3 / CAD 2a (£3,271)
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser
Hysbyseb: 24ain o Ebrill 2024
Dyddiad Cau: 7fed o Fai 2024 (9yb)
Swydd i ddechrau: Medi 2024
Dewch i ymweld
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â’r ysgol ar adeg sy’n gyfleus. Gallwch gwrdd â’r Ysgol Gynradd a chael taith o gwmpas yr ysgol. Cysylltwch â Ffion Williams er mwyn trefnu amser sydd yn gyfleus i chi drwy ffonio
Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Rydym am benodi athro ac arweinydd:
● sy’n ysbrydoli disgyblion brwdfrydig
● sy’n gynnes, yn gallu dangos empathi a sydd yn ofalgar o eraill
● sy’n gadarn a theg a sy’n modelu arferion rhagorol
● sydd eisiau datblygu’n broffesiynol
● sy'n meddu ar wybodaeth o’r byd addysg gyfredol
● sy’n fodlon ac yn hapus i gymryd risg
● sy’n athro rhagorol llawn cymhelliant sy’n gosod disgwyliadau uchel personol ac i’r disyblion
● sy’n gallu cyfathrebu a chyd-weithio’n wych fel rhan o gymuned glòs yr ysgol
● sy’n gallu sefydlu a chynnal perthynas bositif gyda rhieni a gofalwyr a’r gymuned ehangach
● sy’n deall pwysigrwydd ac yn ymroi i gymryd rhan weithredol gyda gweithgareddau allgyrsiol
Os hoffech fwy o fanylion neu sgwrs bellach ynglŷn â’r cyfle euraidd yma, cysylltwch â Ffion Williams drwy ffonio
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac mae disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.