Technegydd Celfyddydau Gweledol (cyfnod mamolaeth)

Cyflogwr
Gower College Swansea
Lleoliad
Swansea, Swansea
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£24,691 - £25,217 y flwyddyn
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
8th Gorffennaf 2025 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1496235
Cyfeirnod y swydd
JUN20252699
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • ID swydd: 1496235

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y Rôl:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n Tîm Celfyddydau Gweledol llwyddiannus ar gampws hanesyddol Llwyn y Bryn yn ardal yr Uplands. Mae gan yr adran dros 200 o ddysgwyr ar hyn o bryd ac maent yn dymuno datblygu eu sgiliau creadigol gyda’r nod o symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch neu gyflogaeth.

I gynnig gwasanaeth dros gyfnod mamolaeth, rydym yn chwilio am geisiadau gan unigolion sy’n gallu gweithredu rôl Technegydd Celfyddydau Gweledol, gan gynnig cymorth a chyngor ar ystod o gyrsiau Celfyddydau Gweledol.

• Llawn Amser (37 awr yr wythnos)

• Yn ystod y tymor (36 wythnos y flwyddyn) - cyfnod penodol o flwyddyn,

• £24,691 - £25,217 y flwyddyn

• Campws Llwyn y Bryn

Cyfrifoldebau Allweddol:

• Paratoi a gosod offer a deunyddiau yn barod ar gyfer dosbarthiadau a gweithdai

• Cynorthwyo gyda pharatoi mannau arddangos, gan gynnwys hongian gwaith celf a gosod a symud byrddau arddangos a stondinau.

• Dosbarthu deunyddiau ac offer benthyca i fyfyrwyr e.e. camerâu

Amdanoch chi:

• Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn maes dysgu sy’n ymwneud â Chelf

• Y gallu i ddefnyddio TG a thaenlenni, neu barodrwydd i ddysgu sut i wneud hyn

• Profiad o drin celf ac offer eraill ynghyd â sgiliau ymarferol a thechnegol

Buddion:

• 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig

• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2024)

• 2 ddiwrnod lles i staff

• Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg

• Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant Ymatebwr Cyntaf a mabwysiadu dyletswyddau Ymatebwr Cyntaf. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, byddwch yn derbyn £50 y mis.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.