Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Chwarae rôl allweddol wrth gefnogi anghenion creadigol y tîm marchnata a chyfathrebu’r Coleg. Prif bwrpas y rôl hon yw cynorthwyo i greu a chynhyrchu deunyddiau graffeg atyniadol a gweledol apelgar sy’n cyfleu brand a negeseuon y Coleg i amrywiaeth o rhanddeiliad.
Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)
Cyfnod Penodol - 31 Rhagfyr 2024
£22,982 - £25,017 awr yr wythnos
Tycoch a Gorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Cydweithio gyda’r tîm marchnata a chyfathrebu i ddeall gofynion ac amcanion prosiectau gwahanol.
- Cynorthwyo i ddylunio a datblygu ystod eang o ddeunyddiau marchnata, gan gynnwys prosbectysau, pamffledi, taflenni, posteri, baneri, hysbysebion digidol, graffeg cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau hyrwyddo eraill.
- Creu cynlluniau a dyluniadau atyniadol yn unol â chanllawiau brandio’r Coleg.
- Defnyddio meddalwedd ac offer dylunio sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant i greu dyluniadau a gwaith celf o ansawdd uchel.
Amdanoch chi:
- Dealltwriaeth gref o egwyddorion dylunio, teipograffeg, lliwiau a chyfansoddiad gosodiadau.
- Portffolio sy’n arddangos gwaith dylunio graffeg a gallu creadigol.
- Gallu i ddefnyddio rhaglenni Adobe Creative (gan gynnwys Photoshop, Illustrator ac InDesign).
- Llygad wych am fanylder.
Buddion:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.