Swyddog Cymorth Addysg
Reference: SEP20239042
Expiry date: 23:59, Thu, 28th Sep 2023
Location: Abertawe
Salary: £11.25 Per Hour
Duration: Tan 31ain Awst 2024
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Darparu cymorth i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn unol â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) i sicrhau bod gweledigaeth y coleg a’i ymrwymiad i brofiad y dysgwr yn cael eu gweithredu mewn modd effeithiol. Gwneir hyn trwy gyrraedd targedau a sicrhau’r buddion gorau posib i’n dysgwyr a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn.
- Cyfnod penodol tan 31 Awst 2024
- £11.25 yr awr
- Campws Tycoch
Nodwch yn glir yn eich ffurflen gais pa swyddi gwag/swyddi gweigion yr hoffech chi fynegi diddordeb ynddynt:
- Swydd Wag A: 27.5 awr yr wythnos (yn ystod y tymor, 36 wythnos y flwyddyn)
- Swydd Wag B: 19.5 awr yr wythnos (yn ystod y tymor, 36 wythnos y flwyddyn)
- Swydd Wag C: 13 awr yr wythnos (yn ystod y tymor, 36 wythnos y flwyddyn)
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol wrth ddarparu rhaglenni addysgol, yn unol â chyfarwyddyd y darlithwyr.
Helpu symud dysgwyr sydd â gofynion gofal personol o le i le yn unol â’u cynlluniau gofal.
Cysylltu â dysgwyr, teuluoedd/gofalwyr, awdurdodau lleol a staff y coleg i asesu a monitro’r broses o gyflwyno cynlluniau pontio.
Yn absenoldeb y darlithydd, helpu / goruchwylio myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth yn ystod amser cinio, adeg cofrestru’r bore, ar ddiwedd y dydd ac yn ystod cyfnodau rhydd.
Amdanoch chi:
- Cymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C) neu’r cyfwerth
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- Dealltwriaeth o’r anghenion cymhleth a’r rhwystrau i ddysgu y mae dysgwyr ag ADY yn eu hwynebu
Buddion:
- 5.66 wythnos o wayliau blynyddol
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Parcio am ddim
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.