Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Bydd dyletswyddau’r rôl hon yn gofyn i chi ddarparu gwasanaeth hyfforddi ac asesu o ansawdd uchel mewn iechyd a diogelwch, gan gynnwys IaD cyffredinol, tân (ymwybyddiaeth, asesu risg a diogelwch), yr amgylchedd, sector adeiladu ac iechyd a lles. Bydd rhaglenni’n cynnwys NVQ, cyrsiau Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Bwyd a rhaglenni pwrpasol a gweithdai eraill.
37 awr yr wythnos
Cyfnod penodol - 1 flwyddyn
£33,545-39,024 y flwyddyn
Abertawe, Jubilee Court Campws
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o raglenni gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau’r corff dyfarnu.
- Sicrhau bod strategaethau a deunyddiau hyfforddi ac asesu wedi’u cynllunio a’u bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr a chyflogwyr.
- Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad.
- Cynnal cofnodion i hwyluso’r broses o adrodd gwybodaeth fanwl (er enghraifft, gwybodaeth ariannol ac ansawdd) i’r rheolwr llinell yn ôl yr angen.
- Cadw i fyny â datblygiadau'r cwricwlwm o fewn y sector, gan ddefnyddio technoleg ddigidol a sicrhau bod deunyddiau a strategaethau addysgu yn cael eu diweddaru'n briodol.
Amdanoch chi:
- Cymhwyster Iechyd a Diogelwch perthnasol (e.e. NEBOSH, IOSH, NVQ)
- Profiad a chymhwysedd galwedigaethol i Profiad o asesu cyrsiau Iechyd a Diogelwch
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd a diogelwch.
- Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddi.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Buddion:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.