Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn profiadol, dawnus a llawn cymhelliant i ddysgu Cemeg UG a Safon Uwch. Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd o’r radd flaenaf ymuno ag adran sefydledig a gweithio mewn Coleg sydd ag enw rhagorol am gyflwyno Lefel A.
- Llawn amser
- Parhaol
- £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)
- Campws Gorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
Datblygu a defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu, dysgu ac asesu, monitro cynnydd dysgwyr a darparu adborth effeithiol trwy gydol y flwyddyn academaidd
Cyfrannu at gyfarfodydd tîm a chael effaith gadarnhaol ar ansawdd cyffredinol y maes pwnc hwn
Sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu
Amdanoch chi:
Profiad llwyddiannus diweddar o addysgu mewn lleoliad ôl-16
Meddu ar radd Cemeg
Meddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig
Unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig a all ennyn diddordeb, ysbrydoli a herio pob dysgwr i gyflawni ei botensial unigol
Sgiliau trefnu a datrys problemau da a byddwch yn barod i weithio'n hyblyg
Byddai dealltwriaeth o broses ymgeisio UCAS a’r parodrwydd i gefnogi dysgwyr drwy’r gweithgaredd hwn yn fanteisiol
Buddion:
46 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025)
Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.