Y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, talentog a brwdfrydig i addysgu'r Cyfryngau a Graffeg yng Ngholeg Gwyr Abertawe. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyflwyno Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru.
- Rhan amser 0.7 (26 awr yr wythnos)
- Cyfnod penodol (dros gyfnod mamolaeth)
- £18,470 - £36,351 y flwyddyn
- Campws Gorseinon, Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, paratoi ac addysgu ar draws amrywiaeth o gyrsiau gan sicrhau bod cynlluniau/cofnodion gwaith ac amserlenni aseiniadau yn briodol i gynnwys y maes llafur a safonau'r corff dyfarnu.
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch, er mwyn diwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr. Bydd gofyn i chi hefyd sicrhau bod mentrau Llywodraeth Cymru e.e. Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Ethos Cymreig, Sgiliau Hanfodol a Chyflogadwyedd yn cael eu hymgorffori a'u hasesu'n effeithiol.
- Defnyddio offer/atebion digidol ar gyfer cyflwyno ac asesu ar-lein, gan ddefnyddio platfformau digidol sydd wedi eu cymeradwyo gan y Coleg.
- Addysgu, asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnwys gosod targedau, cadw a chynnal cofnodion gwaith a chyflawniad yn unol ag amserlenni/meini prawf allanol a thargedau’r coleg.
Amdanoch Chi
- Cymhwyster proffesiynol neu radd dosbarth cyntaf mewn maes perthnasol.
- Cymhwyster addysgu/hyfforddi neu barodrwydd i weithio tuag at ei ennill a/neu wybodaeth o ymgorffori Sgiliau Allweddol yn y cwricwlwm perthnasol
- Y gallu i gefnogi a meithrin grwpiau dysgu amrywiol gyda'r nod o gyflawni canlyniadau dymunol
Datganiad Diogelu:
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.