Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae’r Coleg yn chwilio am Ddarlithydd cymwys, ymroddedig a brwdfrydig i addysgu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan arbenigo mewn Anatomeg, Ffisioleg a Ffiseg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwaraewr tîm proffesiynol gyda'r gallu i adnabod a datblygu potensial dysgwyr ac yn deall yr heriau sy'n gysylltiedig ag addysgu yn y sector Addysg Bellach.
- Amser Llawn
- Parhaol
- £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)
- Ledled campysau'r coleg
Cyfrifoldebau Allweddol:
Cynnal a monitro data sy'n ymwneud â chadw, cwblhau a chyflawniad dysgwyr ar gyrsiau perthnasol, yn unol â thargedau’r Coleg a meincnodau cenedlaethol.
Cefnogi, cynghori ac arwain myfyrwyr, gan wneud atgyfeiriadau priodol lle bo angen er mwyn diwallu anghenion bugeiliol yn llawn.
Cyfrannu'n weithredol at y broses adolygu cwrs / datblygu a gweithredu camau tuag at welliant parhaus.
Darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr drwy sesiynau adolygu neu gymorth astudio lle bo angen.
Amdanoch chi:
Byddwch yn chwaraewr tîm proffesiynol gyda'r gallu i adnabod a datblygu potensial dysgwyr ac yn deall yr heriau sy’n gysylltiedig ag addysgu yn y sector AB.
Byddwch yn datblygu ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu, gan gynnwys defnyddio TGCh yn effeithiol, i sicrhau rhagoriaeth a chyrhaeddiad targedau cwrs ar gyfer cadw a chyflawni.
Fel cyfathrebwr eglur a hyderus, bydd gennych y gallu i ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr ac i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol sy’n arwain at brofiad dysgu eithriadol. Bydd disgwyl hefyd i chi ymgymryd â rôl tiwtor personol ar gyfer un neu fwy o grwpiau dysgwyr.
Bydd gennych radd berthnasol a phrofiad cryf o weithio mewn rôl berthnasol ac yn gymwys i addysgu lefelau 1-5. Bydd gennych, neu’n barod i weithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig a’r gallu i addasu eich arddull addysgu i ddiwallu anghenion grwpiau oedran amrywiol.
Buddion:
46 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025)
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.