Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Y rôl:
Rydym yn chwilio am Hyfforddwr y Gymraeg i gefnogi dysgwyr sy’n astudio pynciau galwedigaethol. Byddwch yn darparu cymorth i ddysgwyr drwy sesiynau unigol a sesiynau grwp, gan weithio’n agos a staff addysgu a Rheolwyr Maes Dysgu i hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Coleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn un o’r meysydd cwricwlwm canlynol:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon
Celfyddydau Gweledol, Diwydiannau Creadigol a Busnes
Nodwch eich maes dysgu dewisol yn eich datganiad personol.
Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
Yn ystod y tymor (40 wythnos y flwyddyn)
Cyfnod Penodol tan 31/08/2027
£13.72 - £14.94 yr awr (£23,026 - £25,067 y flwyddyn)
Ar draws ein campysau yn Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
Cefnogi dysgwyr sydd â phryderon ynghylch symud o addysg cyfrwng Cymraeg, cymhelliant a dysgu’n ddwyieithog, gan greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol.
Cynnal sesiynau un-i-un â dysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn deall eu hanghenion iaith, academaidd a chymorth, gan ddarparu cyngor, arweiniad, adnoddau a chyfleoedd priodol iddynt.
Cynllunio a darparu sesiynau grwp o ansawdd uchel sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymhwyster, gan wella cyfranogiad mewn modd gweithredol a chefnogi eu taith ddysgu ddwyieithog.
Amdanoch Chi
Siaradwr Cymraeg rhugl - B2/Uwch (gweler y fframwaith cymhwysedd ynghlwm)
Digon o hyder i gyfathrebu yn glir ac yn effeithio gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd (gan gynnwys pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, sefydliadau allanol, staff academaidd) gan gynnig cyflwyniadau sy’n denu’r llygad.
Profiad o hyrwyddo’r Gymraeg a mentora pobl ifanc.
Y gallu i fod yn rhagweithiol, dyfeisgar a gweithio ar eich liwt eich hun.
Buddion:
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd)
2 Ddiwrnod Lles i staff bob blwyddyn
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.