Ymgeisiwch yn Gyflym

Athro Addysg Gorfforol

Coleg
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athro
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
Yn dod i ben
29th Ebrill 2024 03:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1414278
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: Maternity
  • ID swydd: 1414278

Swydd athro Addysg Gorfforol (Cyfnod Mamolaeth)

Contract Mamolaeth

Ar gyfer Medi 2024

Cyflog : Graddfa gyflog athrawon

Dyddiad cau: 29ain o Ebrill 2024

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni baratoi i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.

Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.

Agorodd Gwynllyw fel Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda’n datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd.

Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.

Prif gyfrifoldebau

• Ymgymryd â dyletswyddau Athro/Athrawes yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a deddfwriaeth bresennol arall ym maes addysg.

● Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon

● Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

● Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr

*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

● Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;

● Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;

● Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;

● Gallu gweithio fel rhan o dîm;

● Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol neu athrawon sydd newydd gymhwyso am y swydd hon.

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth, dros y ffôn neu trwy ebost

.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 29ain o Ebrill 2024

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA