Ymgeisiwch yn Gyflym

Athro Cymraeg

Coleg
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athro
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
Yn dod i ben
29th Ebrill 2024 03:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1414826
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1414826

Athro Cymraeg

Swydd barhaol

Graddfa Cyflog Athrawon & R&R o £1000 am 1 flwyddyn i’r ymgeisydd addas

I gychwyn Medi 2024.

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.

Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.

Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda’n datblygiadau o fewn adran y Gymraeg ac ar draws maes dysgu a phrofiad ieithoedd a chyfathrebu drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd yr unigolyn) yn CA4 a CA5.

Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.

Prif gyfrifoldebau

• Addysgu disgyblion ar hyd yr ystod gallu gyda chyfle i ddysgu Lefel A i ymgeisydd addas

• Sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial mewn awyrgylch gadarnhaol a chynhaliol

• Cydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan ar gyfer y Gymraeg

• Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn yr adran Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon

• Cydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch

• Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

• Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr

*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

• Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;

• Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;

• Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;

• Gallu gweithio fel rhan o dîm;

• Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 29ain o Ebrill am 3yp

This is an advertisement for the post Welsh teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA