Ymgeisiwch yn Gyflym

Cynorthwyydd Addysgu lefel 2

Coleg
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Gradd 4 pt 6-10 £23,893 - £25,545 pro rata
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
Yn dod i ben
13th Mai 2024 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1419632
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1419632

Cynorthwyydd Addysgu lefel 2

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.

Swydd barhaol

Cychwyn Medi 2024

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod gwaith rhwng 8.15yb - 3:15yp. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).

Mae’r cyflog ar gyfer rôl yn unol â Graddfa Gyflog 4 Torfaen £23,898 - £25,545 pro-rata.

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Mae’r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i’n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych ar ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a’n trefniadaeth gyffredinol.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol eithriadol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda’r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.

Prif gyfrifoldebau:

• Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth Arweinydd Camau Cynnydd 1 & 2 neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion.

• Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu

• Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Athrawon Dosbarth yng Nghamau cynnydd 1 & 2– wrth cefnogi ein dysgwyr.

Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i’r ymgeisydd llwyddiannus:

Gweithio gyda dysgwyr gydag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu

Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar

Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi

Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff

Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 12pm dydd Llun, Mai 13eg.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Dirprwy Bennaeth, Gareth Jones.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA