Ymgeisiwch yn Gyflym

Dirprwy Arweinydd Adran y Gymraeg

Coleg
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athro & CAD 2
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
Yn dod i ben
29th Ebrill 2024 03:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1415098
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1415098

Dirprwy Arweinydd Adran y Gymraeg

Swydd cytundeb parhaol

Graddfa Cyflog Athrawon & CAD 2.

I gychwyn Medi 2024.

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni baratoi i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.

Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.

Agorodd Gwynllyw fel Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn ymgymryd â rôl ddirprwy arweinydd o fewn adran flaengar. Bydd cyfle i arwain yr addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys CA4 a CA5.

Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.

Prif gyfrifoldebau

• Cynorthwyo i arwain adran lwyddiannus a datblygu dulliau dysgu ac addysgu arloesol

• Arfarnu perfformiad disgyblion CC4 a chynllunio ar gyfer gwelliant

• Sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial mewn awyrgylch gadarnhaol a chynhaliol

• Cydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan ar gyfer y Gymraeg

• Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn yr adran Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon

• Ymchwilio a chydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch

• Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

• Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr

*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

• Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;

• Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;

• Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg;

• Gallu gweithio fel rhan o dîm;

• Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 29ain o Ebrill 2024 am 3yp

This is an advertisement for the post of a Deputy Leader in the Welsh Department in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA