Swyddog cefnogi lles & ymddygiad (x2 swydd)
32.5 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Gradd 5 £25,979 - £28,770 Pro-rata*
Ar gyfer Medi 2024, contract parhaol
Wrth i’r ysgol edrych tua’r dyfodol, rydym yn datblygu ystod o strwythurau a systemau cefnogi dysgwyr yn yr ysgol. O ganlyniad, rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â thîm ymroddgar o staff fel Swyddog cefnogi lles & ymddygiad. Caiff gyfrifoldebau penodol eu glustnodi yn ôl arbenigedd yr unigolyn llwyddiannus ond byddwch yn gweithio gyda disgyblion bregus sy’n dangos ymddygiad heriol ar adegau er mwyn eu cefnogi i gael mynediad i gwricwlwm a chymdeithas yr ysgol. Byddwch hefyd yn gweithio gyda disgyblion yn CA3 a CA4 er mwyn eu cefnogi gyda materion lles, datblygu a gweithredu systemau gwobrwyo’r ysgol gydag aelodau o’r Uwch Dîm Arwain & Pennaethaid Cynnydd.
Diben y swydd
• Cynorthwyo’r Pennaeth Cynnydd a Lles gyda phresenoldeb, gofal lles a bugeiliol dysgwyr
• Cefnogi prosesau ymddygiad yr ysgol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cydymffurfio â rheolau’r ysgol a pharchu safle’r ysgol
• Hyrwyddo ethos Gymreig yr ysgol
Cefnogaeth lles a bugeiliol
• Cynorthwyo’r Pennaeth Cynnydd a Lles a’r dirprwyon i gefnogi lles a sicrhau gofal bugeiliol i ddysgwyr, gan gynnwys materion ymddygiadol, presenoldeb, lles, dilyn rheolau ysgol ayb
• Gweithio gyda dysgwyr sydd yn arddangos ymddygiad sydd ddim yn cwrdd ar safonau disgwyliedig
• Cydweithio gyda’r cartref er mwyn gwella lles, ymddygiad a phresenoldeb dysgwyr penodol
• Cymryd cyfrifoldeb dros fonitro presenoldeb dysgwyr a chydweithio gyda’r Pennaeth Cynorthwyol, Swyddog Presenoldeb ac asiantaethau allanol yn ôl yr angen
• Cydweithio gyda’r tîm cefnogi ymddygiad ar gyfer creu rhaglenni ymyrraeth ymddygiad ar gyfer disgyblion
• Cynorthwyo gyda threfniadau ymyrraeth i ddysgwyr (mewnol ac allanol) a chefnogi’r broses o fonitro tangyflawniad dysgwyr
• Cynorthwyo gyda phrosesau cynnal ymddygiad ysgol gyfan drwy warchod dysgwyr yn yr uned cefnogi ymddygiad yn ystod amser egwyl, cinio a’r diwrnod ysgol arferol.
• Mentora unigolion er mwyn gwella ymddygiad a phresenoldeb.
• Helpu dysgwyr sydd mewn perygl i osgoi gwaharddiad parhaol neu gadael ysgol heb gymhwyster.
Dyletswyddau cyffredinol
• Gwarchod gwersi dros staff sy’n absennol ar adegau yn ôl yr angen
• Mynychu cyfarfodydd yn fewnol a thu allan i’r ysgol yn ôl yr angen
• Cwrdd gyda rhieni er mwyn trafod ymddygiad a phresenoldeb
• Ymchwilio i gyrsiau amgen ar gyfer dysgwyr
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau sy'n ofynnol yn rhesymol gennych chi, sy'n gymesur â'ch gradd neu lefel gyffredinol o gyfrifoldeb
Rhaid i’r ymgeisydd:
• feddu ar isafswm o gymwysterau ar Lefel 3 neu gyda phrofiad uniongyrchol llwyddiannus o weithio yn y maes cefnogi ymddygiad a lles disgyblion;
• fod yn hawddgar a gallu magu perthynas gefnogol gyda disgyblion bregus a heriol;
• fod yn drefnus ac yn gallu rheoli amser a gwaith yn effeithiol;
• fod yn hyblyg i ymgymryd ag ystod o rolau gwahanol o fewn y maes cefnogi dysgwyr a datblygu uchelgais iddynt;
• feddu ar sgiliau cyfathrebu da yn y Gymraeg a’r Saesneg;
• allu gweithio fel rhan o dîm;
Os ydych am ymuno â ni, lawr lwythwch ffurflen gais oddi ar wefan E-teach.
Gellir cael manylion pellach trwy gysylltu yn uniongyrchol â'r ysgol.
Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r ysgol a gofynnwch i siarad â’r Pennaeth Gweithredol, Miss Helen Rogers.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3pm dydd Llun, Ebrill 29ain 2024
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.