Yn dilyn dyrchafiad y dirprwy bennaeth, mae yna gyfle cyffrous i ymuno a thim llwyddiannus ym Mhontardawe. Dymuna Corff Llywodraethu’r ysgol hon benodi unigolyn brwdfrydig, creadigol, ymroddgar a chydwybodol sydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol arbennig ar gyfer Dirprwy Bennaeth. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon sydd â’r profiad addas i ymgymryd â’r swydd allweddol hon yn yr ysgol, i ddechrau yn Hydref 2025 (neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny)
Caiff y Dirprwy Bennaeth:
• Cefnogaeth staff brwdfrydig;
• Cefnogaeth llywodraethwyr a’r gymuned sy’n ymrwymedig i nodau a gweledigaeth yr ysgol;
• Cyfle i weithio gyda phlant gweithgar a chyfeillgar yr ysgol;
• Ymgymryd mewn gweithgareddau a bywyd hynaws yr ysgol;
• Cyfle arbennig i ddatblygu’n broffesiynol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Medru ar ddealltwriaeth glir o ofynion y Cwricwlwm Newydd i Gymru;
• Yn medru meddwl yn greadigol ac yn strategol ac yn medru datrys problemau a gweithredu’n arloesol;
• Medru cyfathrebu’n glir gyda sgiliau ieithyddol cadarn ar lafar ac yn ysgrifenedig;
• Medru arwain a rheoli staff yn effeithiol, eu hysbrydoli a’u datblygu’n broffesiynol.
• Cydweithio’n arbennig gyda staff a phennaeth yr ysgol;
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Dyddiad cyfweliadau i’w gadarnhau.
Safeguarding Statement:
YGG Pontardawe is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.