Pennaeth - Ysgol Gymunedol Roch

Cyflogwr
Roch Community School
Lleoliad
Haverfordwest, Pembrokeshire
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfeydd cyflog rhwng £64,174 a £74,384
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
4th Mehefin 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1553529
Cyfeirnod y swydd
REQAA7241
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: 24 months
  • ID swydd: 1553529

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn ceisio recriwtio arweinydd ysbrydoledig ac ymroddedig a fydd yn parhau i ymgorffori a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol: 

Bod yn gymuned hapus, ddiogel, gefnogol,

gyda gwerthoedd cadarnhaol wrth ei chraidd,

gan agor calonnau a meddyliau ei dysgwyr

trwy brofiadau ysbrydoledig, dilys,

agor drysau i fyd o gyfleoedd a phosibiliadau.

 

Ysgol Gynradd y Garn – hysbysebwyd -14 Mai 2026

I ddechrau 1 Medi 2026 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny (secondiad am ddwy flynedd)

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ‘penderfyniad mewn egwyddor’ ar waith gyda’u corff llywodraethu parhaol cyn gwneud cais.

ISR L9-L15

Math o gontract: Secondiad

Cyfnod y contract:  Cyfnod penodol, dwy flynedd

Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd y Garth am benodi Pennaeth Dros Dro rhagorol i arwain ein hysgol lwyddiannus, hapus a chynhwysol. 

Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y nodweddion canlynol:

Arweinydd brwdfrydig, ysbrydoledig ac arloesol sy’n meddu ar sgiliau addysgu a rheoli diamheuol

Person sy’n gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf

Wedi ymrwymo i gynnal ein hethos presennol, safonau uchel a gwelliant parhaus

Brwdfrydig ynglŷn â meithrin y partneriaethau rhwng disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach

Gallu datblygu a gweithredu gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad parhaus ein hysgol yn unol ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

Gallu dangos dulliau addysgeg cryf gan fod disgwyl y bydd y pennaeth yn ymgymryd ag ymrwymiad addysgu.

Bydd gwybodaeth am brosesau ADY yn hanfodol.

Lleolir ein hysgol mewn lleoliad gwledig ffyniannus a chroesawgar ychydig y tu allan i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  Mae castell hanesyddol yn edrych dros yr ysgol ac mae o fewn pellter cerdded i draeth Baner Las sy’n lleoliad poblogaidd i bobl sy’n hoffi chwaraeon dŵr. Mae’r ysgol yn ymfalchïo ym mhob agwedd o fywyd y gymuned.

Mae gan yr ysgol dîm o staff sy’n frwdfrydig, talentog ac ymroddedig, ac sy’n cael ei gynorthwyo gan ein corff llywodraethu rhagorol ac ymrwymedig.  Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i fod yn ysgol sy’n hyrwyddo iechyd ac mae arferion cynaliadwy yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.

“Mae’r ysgol yn gymuned groesawgar lle mae llesiant yn flaenoriaeth. Mae ethos a gweledigaeth yr ysgol yn sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfleoedd cyson i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Ynghyd â disgyblion a rhieni, mae pob un o’r staff yn meithrin cydberthnasau proffesiynol cadarnhaol â dysgwyr a’u teuluoedd ar draws yr ysgol.” 

Estyn 2023

 

Gan mai rôl dros dro ar secondiad yw hon, nid oes angen cymhwyster CPCP.

Mae penodi unigolyn i’r swydd hon yn amodol ar gais am ddatgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dyddiad cau: Dydd Iau 4 Mehefin (hanner nos)

Llunio’r rhestr fer: Wythnos yn dechrau 8 Mehefin 2026  

Diwrnod cyfweld 1: Wythnos yn dechrau 15 Mehefin 2026 yn Ysgol Y Garn

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Roch C.P. School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority