Pennaeth Cynorthwyol (CADY) - Ysgol Bro Preseli

Employer
Ysgol Bro Preseli
Location
Crymych, Pembrokeshire
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
L14 £72,579 – L18 £79,288
Start Date
As Soon As Possible
Expires
2nd July 2026 11:59 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1555843
Job Reference
REQAA7267
Start Date
As Soon As Possible
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1555843

Swydd: Pennaeth Cynorthwyol CADY – Ysgol Bro Preseli 3 -19 oed

Dyddiad Cychwyn: 1af o Fedi 2026, Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L14 – L18

Cytundeb Parhaol, Llawn Amser

Dyddiad Cau: 10fed o Mehefin 2026

Mae Corff Cysgodol Llywodraethol Ysgol Bro Preseli yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol CADY. Mae’r ysgol yn chwilio am unigolyn blaengar, uchelgeisiol, ffyddlon, proffesiynol a gweithgar sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn ymroddedig i gynnig yr addysg orau i’r disgyblion.

Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Cydlynydd ADY

Prif Gyfrifoldebau

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Arwain ar Fframwaith Y Ddeddf ADY.

Gweithredu’r polisi ADY ym mywyd yr ysgol pob oed.

Cysylltu â chynghori cyd-athrawon.

Cydgysylltu’r ddarpariaeth ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cadw cofrestr ADY yr ysgol a goruchwylio cofnodion ar yr holl ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Cysylltu â rhieni’r plant ag anghenion dysgu ychwanegol,

Cyfrannu at HMS staff.

Cysylltu gydag asiantaethau allanol sy’n cynnwys y gwasanaeth seicoleg addysgol ag asiantaethau allanol sy’n cynnwys y gwasanaethau meddygol a chymdeithasol a’r cyrff gwirfoddol.

Cyfrifoldeb am ddisgyblion sy’n derbyn gofal.

Cydlynu’r pontio ar gyfer disgyblion ADY ar draws y camau cynnydd ac addysg ôl-16

Cydlynu Cynlluniau Iechyd Unigol disgyblion ac adolygu rhain yn flynyddol

Cyfeiriad Strategol

Sicrhau systemau cyfathrebu effeithiol gan gynnwys adborth ynglŷn â dysgu disgyblion er mwyn dylanwadu ar gynllunio hir dymor.

Monitro ansawdd y ddarpariaeth ADY gan sefydlu systemau i adnabod anghenion disgyblion, sicrhau bod y systemau’n cael eu cydlynu, gwerthuso a’u hadolygu.

Sicrhau bod nodau ac amcanion y Ddeddf ADY a’r Polisi ADY yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gwella Ysgol. Cydweithio ag asiantaethau allanol.

Darparu cyngor i’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr ynglŷn â newidiadau lleol a chenedlaethol allai gael effaith ar bolisi ac ymarfer.

Rôl Fugeiliol y Cydlynydd ADY

Rhoi cefnogaeth i holl aelodau’r Adran ADY fel bod angen, yn enwedig aelodau newydd.

Cynorthwyo datblygiadau personol a chymdeithasol disgyblion yr adran.

Cynorthwyo wrth gynghori disgyblion ynghylch eu cynnydd yn y pynciau, neu pan fo angen iddynt ddewis eu pynciau.

Cydweithio’n agos â’r Swyddog Gyrfau i gynghori disgyblion ynglŷn â swyddi neu gyrsiau addysg bellach.

Sicrhau safonau uchel o ddisgyblaeth ymysg disgyblion.

Cydweithio â staff y Porth o ran cynnig cyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol i ddisgyblion y Porth.

Cynnydd a Chyrhaeddiad Disgyblion ADY

Monitro cynnydd, lles a disgyblaeth y disgyblion ac i ddilyn lan ar unrhyw adolygiadau cynnydd gan gyd-weithio â’r timoedd bugeiliol a rhieni lle’n briodol.

Cydweithio ag adrannau, ysgolion clwstwr parthed materion trosglwyddo ac asiantaethau allanol.

Cydlynu unrhyw geisiadau ar gyfer amgylchiadau arbennig mewn arholiadau allanol mewn perthynas â’r Swyddog Arholiadau.

Cydlynu trefniadau a chyfrifoldebau staff cynorthwyol.

Dysgu ac Addysgu ADY

Dylanwadu ar y Polisi Dysgu ac Addysgu er mwyn hyrwyddo gwahanol agweddau o ddysgu cynhwysol.

Arwain HMS yn gyson a lle’n briodol gan gynnwys cadeirio’r Gweithgorau Cynnydd a Lles ar draws y Camau Cynnydd.

Sicrhau cyfleoedd i gydweithwyr arsylwi a chael eu harsylwi yn unol â rheolau Datblygu Perfformiad.

Casglu a dadansoddi data asesu ar ddisgyblion a’i ddefnyddio i godi safonau.

Gweithio gyda’r disgyblion, arweinwyr pwnc, athrawon dosbarth a Phenaethiaid Cynnydd a Lles i sicrhau disgwyliadau uchel o ymddygiad a chyrhaeddiad ar gyfer disgyblion ADY.

Cefnogi datblygiadau a gweithgareddau i wella safonau llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion ADY.

Goruchwylio a monitro cynlluniau Proffil Un Dudalen i ddisgyblion sy’n derbyn ymyrraeth sydd wedi’u dargedu.

Datblygu systemau ar gyfer cydweithwyr i fonitro a chofnodi cynnydd disgyblion ADY tuag at dargedau unigol i’w canfod mewn CDU a chynlluniau bugeiliol.

Adolygu Cynlluniau Datblygu Unigol a chynlluniau bugeiliol yn gyson gyda rhieni, disgyblion, aelodau staff priodol ac asiantaethau allanol gan gytuno ar dargedau newydd.

Cefnogi’r Pennaeth wrth ymateb i gyfrifoldebau statudol ar gyfer disgyblion ADY a’r Adolygiadau Blynyddol.

Arwain yr Adolygiadau Blynyddol i ddisgyblion penodol.

Cydweithio a’r Swyddog Arholiadau er mwyn sicrhau bod adroddiadau’r Seicolegydd Addysg yn gywir a bod anghenion ar gyfer disgyblion ADY yn cael eu hadnabod.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Arwain y tîm ac i fod yn weithredol wrth gynllunio gwelliant gan sicrhau bod gwaith yr adran yn cael ei werthuso.

Hyrwyddo awyrgylch o ddatblygiad proffesiynol cyson ymysg aelodau’r adran ac i rannu arfer dda.

Paratoi Cynllun Gwella’r Adran ADY yn flynyddol, diweddaru’r Hunanarfarniad Adrannol yn flynyddol.

Adolygu’n flynyddol disgrifiadau swyddi aelodau’r adran.

Gweithredu fel Arweinydd Llinell i aelodau’r adran gan weithredu’r polisi Datblygu Perfformiad yn flynyddol.

Adnabod anghenion DPP/HMS aelodau’r adran a sicrhau bod y Cydlynydd DPP/HMS yn darparu hyfforddiant priodol.

Dosbarthu gwybodaeth angenrheidiol i aelodau’r adran gan gynnwys manylion Cod Ymarfer/Polisi ADY.

Arfarnu Gwaith Pynciau a Chamau Cynnydd

Gwerthuso a monitro gwaith adrannau penodol a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Tîm Arwain a’r adrannau

(Adrannau i’w cadarnhau yn dilyn penodiadau mewnol i’r Uwch Dîm Arwain)

Rheolwr Cyswllt Bugeiliol

Gweithredu fel Rheolwr Cyswllt Penaneth Cynnydd a Lles

Cyfrifoldebau Cyffredinol (sy’n gyffredin i bob aelod o’r Tîm Arwain)

Unrhyw gyfrifoldebau rhesymol ychwanegol a nodir gan y Pennaeth.

Cynorthwyo gydag arolygaeth adeg yr awr ginio, peth cyntaf yn y bore, yn ystod yr egwyl ac ar ddiwedd y dydd wrth ryddhau’r bysiau.

Cyfrannu at drefn dydd i ddydd yr ysgol.

Cynnig y gefnogaeth briodol i staff.

Arwain gwasanaethau boreol ar rota.

Mynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli a chadw cofnodion ar rota.

Cyfrannu at les disgyblion.

Paratoi ar gyfer arolygiadau ESTYN ac arolygiadau allanol eraill ee.Partneriaeth.

Cynnig y gefnogaeth briodol i staff.

Cynnal cyfarfodydd Rheolwr Llinell Pynciol a Bugeiliol cyson pob hanner tymor gan ddilyn agenda penodol a chadw cofnodion.

Attachments

Safeguarding Statement:

Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.

This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Ysgol Bro Preseli

Ysgol Bro Preseli

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority