Athro x 2 – Ysgol Wirfoddol a Reolir Gelliswick
Prif raddfa gyflog/uwch raddfa gyflog; amser llawn, 1 x cyfnod penodol hyd at 31 Awst 2027, 1 x penagored.
Mae Ysgol Gynradd Gelliswick yn chwilio am athro amser llawn i ymuno â’n hysgol fywiog. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferydd ymroddgar, brwdfrydig a myfyriol sy’n ymrwymedig i wella ei addysgu. Byddwch yn ymuno â ni yn ystod cyfnod o ddatblygiad cyffrous yn Gelliswick, wrth i ni ddod â’n gweledigaeth o gymuned ddysgu amrywiol a chynhwysol yn fyw: cymuned sy’n gwerthfawrogi pawb, sy’n darparu gobaith, ac sy’n cydweithio i wneud dyfodol pob plentyn yn well nag yr oedd yn ei feddwl oedd yn bosibl.
Mae Gelliswick yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol i’n disgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i’n staff. Bydd gennych y buddion uniongyrchol o ymuno â thîm o staff ymrwymedig, cydweithredol ac ymroddedig, gan weithio yn yr adeilad newydd sbon a agorwyd ym mis Ionawr 2018. Mae gan yr ysgol oddeutu 458 o ddisgyblion, gan gynnwys 25 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, sy’n mynychu’r ganolfan adnoddau dysgu mewn amgylchedd dysgu sydd â llawer o adnoddau.
Mae’r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol sy’n frwd dros y newidiadau ym maes addysg sy’n mynd rhagddynt yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yr hoffai’r cyfle i drosi’r syniadau hyn yn addysgu ymarferol. Mae’r corff llywodraethu yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig i weithio o fewn y lleoliad Blynyddoedd Cynnar, gan arwain tîm o staff cymorth.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n bodloni manyleb y person yn y swydd-ddisgrifiad ac sy’n bodloni’r canlynol:
Yn ymarferydd dosbarth rhagorol â llwyddiant blaenorol.
Yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu ac am ddatblygiad plant, ac yn cymhwyso’r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau’r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr
Yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o addysgeg, ac yn ymwneud â’r pedwar diben a’r profiadau dysgu sy’n ganolog i ddiwygiad presennol y cwricwlwm
Yn meddu ar y sgiliau a phrofiad i reoli tîm bach, ac â’r gallu i fod yn batrwm ar eu cyfer.
Os hoffech drafod y swydd neu ymweld â’r ysgol, cysylltwch â Leanne Prevel, y Pennaeth,
Mae ceisiadau’n cau ddydd Iau, 4 Mehefin 2026
Llunio’r rhestr fer yn yr wythnos sy’n dechrau 8 Mehefin 2026
Proses gyf-weld – yn yr wythnos sy’n dechrau 15 Mehefin 2026
Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.
This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.