Hysbysebir y swydd wag hon fel swydd dros dro, dros gyfnod penodol.
Mae Ysgol Portfield yn darparu ar gyfer disgyblion ag amrywiaeth o anawsterau dysgu difrifol a chymhleth, anhwylderau'r sbectrwm awtistig a nam ar y synhwyrau.
Mae'n ofynnol i bob athro yn Ysgol Portfield addysgu gwersi gwahaniaethol i adlewyrchu anghenion amrywiol y plant yn eu hystafell ddosbarth.
Mae'n hanfodol bod gan athrawon wybodaeth am Gamau Cynnydd, y Blynyddoedd Cynnar a Chwricwlwm Cymru.
Mae'n ddymunol bod gan athrawon wybodaeth am Ddeddf Trawsnewid ADY.
Anogir pob ymgeisydd i ymweld â'r ysgol a disgwylir iddynt addysgu grŵp o ddisgyblion fel rhan o'r weithdrefn gyfweld. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael gwybod y manylion.
Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso wneud cais.
Mae staff addysgu yn Portfield yn derbyn Lwfans ADY 1 ychwanegol o £2,838.00.
Mae Portfield Special yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.