Ysgol yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer dysgwyr 3–16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi, sy’n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a’r cylch. Wedi'i lleoli yn ardal brydferth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn darparu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar lle mae disgyblion a staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol.
Ei angen ar gyfer y cyfnod o 1af Medi tan 31 Rhagfyr 2026, mae'r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol sydd â'r angerdd a'r egni i roi ei stamp ar y pwnc, dod â syniadau newydd a’u datblygu i'r eithaf. Mae'r gallu i addysgu Saesneg yn hanfodol. Mae croeso cynnes i geisiadau ac anogir hwy gan ymarferwyr cynradd ac uwchradd.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn a byddant yn cymryd camau i ddiogelu
llesiant plant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol pob ysgol.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Penrhyn Dewi yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.