Athro Gwyddoniaeth - Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd

Cyflogwr
Haverfordwest High VC School
Lleoliad
Haverfordwest, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
MPS02-UPS03
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
1st Mehefin 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1553176
Cyfeirnod y swydd
REQAA7238
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1553176

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd am benodi athro Gwyddoniaeth eithriadol o fis Medi 2026.  Swydd amser llawn yw hon, swydd BARHAOL, ond ystyrir oriau gwaith rhan-amser (o leiaf 0.8 cyfwerth ag amser llawn). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â ni mewn ysgol sy’n hyrwyddo rhagoriaeth, cynhwysiant a disgwyliadau uchel. 

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

yn dod ag egni, creadigrwydd a brwdfrydedd i’r ystafell ddosbarth

yn ymarferydd rhagorol sydd â chariad at wyddoniaeth.

yn meddu ar y weledigaeth a’r awydd i gryfhau a gwella ein hadran

yn gallu ymgysylltu, ysgogi a herio dysgwyr i gyrraedd uchderau newydd

yn ymrwymedig i godi cyflawniad a gwelliant parhaus

yn dangos sgiliau trefnu, cyfathrebu a dadansoddi rhagorol

yn ysbrydoli eraill gyda brwdfrydedd, gwydnwch a synnwyr digrifwch gwych

yn adeiladu perthnasoedd gwaith cryf â’r holl randdeiliaid

yn defnyddio data yn effeithiol i gynorthwyo cynnydd myfyrwyr

yn rhannu ac yn hyrwyddo gwerthoedd a gweledigaeth ein hysgol

 

Byddwch chi’n ymuno â thîm cefnogol a llewyrchus sy’n gweithio ar y cyd i gyflwyno gwersi difyr o ansawdd uchel. Rydym yn hynod falch o’n myfyrwyr a’u cyflawniadau, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle mae staff a dysgwyr yn ffynnu. Mae adeilad ein hysgol o’r radd flaenaf ac yn cynnig cyfleusterau rhagorol a lle ysbrydoledig i weithio, nid yn unig i staff a myfyrwyr ond i’r gymuned ehangach hefyd.

 

Os oes gennych chi’r cymhelliant, y penderfyniad a’r brwdfrydedd i ymgymryd â’r her gyffrous hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. I ddysgu mwy am ein hysgol, ewch i’n gwefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 


Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Haverfordwest High VC School yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Haverfordwest High VC School

Haverfordwest High VC School

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority