Swydd athro Technoleg Bwyd (gydag opsiwn cyfrifoldeb Is- Arweinydd Iechyd & Lles)
Contract Parhaol
Ar gyfer Medi 2025
Cyflog
Graddfa gyflog athrawon + TLR 3 (£1200) am gyfrifoldeb Is-Arweinydd Iechyd & Lles i ymgeisydd addas
Dyddiad cau: 09.05.2025
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni baratoi i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pwl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda'n datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd yr unigolyn) yn CA4 a CA5.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
O ran y swydd, bydd y prif gyfrifoldebau'n cynnwys:
- Paratoi ac addysgu gwersi yn y maes (Bwyd a Maeth) i ddysgwyr 11-18 oed
- Cyfrannu, trwy'r maes dysgu a phrofiad a thu hwnt, i ddatblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan
- Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon dan oruchwyliaeth yr arweinydd y maes dysgu a phrofiad
- Cyfrannu at waith datblygu medrau o fewn y maes pwnc, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
- Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Meddu ar ddealltwriaeth bynciol gadarn o fewn y maes dysgu
- Meddu ar ddealltwriaeth o sicrhau'r cynnydd orau i ddysgwyr a thracio eu cynnydd yn effeithiol;
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- Gallu gweithio fel rhan o dîm;
- Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol, athrawon sydd newydd gymhwyso am y swydd hon.
Os ydych am sgwrs anffurfiol i drafod y weledigaeth a syniadau ar gyfer datblygu'r maes, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth, dros y ffôn neu trwy ebost.
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.