NEW

Cover Supervisor

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
£27,269 - £30,060 Pro Rata | Gradd 5
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
16th Mai 2025 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1480787
Cyfeirnod y swydd
REQ005360
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: 1 flwyddyn
  • ID swydd: 1480787

Goruchwyliwr Gwersi

Contract: 1 flwyddyn i gychwyn

Cyflog: Gradd 5 (£25,979-£28,770 Pro-rata)

Tymor ysgol yn unig

Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd wedi ddechrau cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw fel ysgol bob oed, wrth i’n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am Oruchwyliwr Gwersi profiadol i ymuno â staff yr ysgol hon mor fuan a bosib. Bydd y swydd am 30 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Rôl pwysig wrth sicrhau nad yw absenoldeb tymor byr athrawon yn amharu ar addysg ein disgyblion. Pan na fyddant yn gwarchod dosbarthiadau, bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gefnogi'r adran ADY, tîm ymddygiad a chwblhau dyletswyddau amser egwyl / cinio.

Mae'r gofynion o ran y swydd yn cael eu hamlinellu yn y disgrifiad swydd sydd ar gael o'r ysgol.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd yma.

Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

This is an advertisement for the post of a cover supervisor in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Datganiad Diogelu

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA