Cynorthwydd Addysgu Lefel 2

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
£26,824 - £28,598 Pro Rata | Grade 4
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
29th Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1551772
Cyfeirnod y swydd
REA006292
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1551772

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu ymroddedig a chymwys i ymuno â'n hysgol.

Swydd barhaol

Cychwyn: Mis Medi 2026

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgu i weithio 32.5 awr yr wythnos ar draws 5 diwrnod ysgol rhwng 8.15yb - 3:15yp*. Mae'r rôl yn ystod y tymor ysgol yn unig (39 wythnos).

Mae’r cyflog ar gyfer y rôl yn unol â Graddfa Gyflog 4 Torfaen £26,824-£28,598 pro-rata.

Mae’r ysgol wedi agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i’n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys Datblygu ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a’n trefniadaeth gyffredinol.

Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Addysgol gydag angerdd am gynorthwyo ein dysgwyr i lwyddo. Chwiliwn am unigolyn deinamig, gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i wella cyrhaeddiad ein dysgwyr ifanc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, cadarnhaol, gyda’r gallu i gydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.

Prif gyfrifoldebau:

  • Gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweinyddiaeth CADY neu aelodau o'r Uwch Dim Arwain yn ddyddiol yn y prosesau o sicrhau cefnogaeth Gofal Personal a chefnogaeth addysgiadol i ddisgyblion oedran uwchradd i gychwyn ond gyda’r potensial I ddatblygu I gefnogi dysgwyr bob oed yn ôl arbenigedd a dyheadau’r unigolyn
  • Cefnogi disgyblion unigol neu grwpiau bach o ddisgyblion er mwyn sicrhau mynediad i ddysgu
  • Cynorthwyo'r staff dysgu yn y prosesau o addasu gwaith lle bo angen er lles y disgybl.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â’r Athrawon Dosbarth– wrth cefnogi ein dysgwyr.

Gallwn gynnig y cyfleoedd canlynol i’r ymgeisydd llwyddiannus:

  • Cynorthwyo dysgwyr gydag amrywiaeth o anghenion gwahanol sy’n awyddus i wella’u haddysg a datblygu fel dinasyddion llwyddiannus
  • Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar
  • Mynediad at ddysgu proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi
  • Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff

Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr cefnogol.

Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn dydd Gwener, 29ain o Fai.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth, Mrs Cath Evans.

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA