Cynorthwyydd Blwyddyn Gap

Cyflogwr
Ysgol Panteg
Lleoliad
Pont-y-Pwl, Torfaen
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Gradd 4 | £26,824 - £28,598 PRO RATA
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
22nd Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1548794
Cyfeirnod y swydd
REQ006269
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Fixed Term 20th July 2027
  • ID swydd: 1548794

Ar gyfer Medi 2026 gyda chytundeb dros-dro tan 20/07/2027

Mae Ysgol Panteg a Charreg Lam yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig leoliad blwyddyn gap yn ystod blwyddyn academaidd 2026-2027. Mae’r cynllun ar agor ar gyfer:

  • myfyrwyr, sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn addysg, sy'n gadael addysg uwchradd neu ôl-18-oed; neu,
  • unigolion sydd eisiau newid gyrfa ac sy’n meddu ar ddiddordeb yn y byd addysg.

Dyma gyfle i gael blas ar fywyd gwaith mewn ysgol trwy weithio fel cynorthwyydd am flwyddyn!

Yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm arwain yr ysgol, bydd cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus:

  • weithio gyda thîm o staff gweithgar ac ymroddgar;
  • cynorthwyo yn nhrefniadaeth gyffredinol yr ystafell ddosbarth a all gynnwys: paratoi'r ystafell ddosbarth, derbyn disgyblion, trefnu a pharatoi defnyddiau, gosod a chlirio offer;
  • cynnal a chadw adnoddau ac offer a ddefnyddir mewn gweithgareddau;
  • rhoi cymorth i unigolion a grwpiau o ddisgyblion i sicrhau mynediad i ddysgu;
  • cynorthwyo'r athro wrth werthuso cynnydd disgyblion a chadw cofnodion yn unol â pholisïau ag ymarferion yr ysgol;
  • cynorthwyo a goruchwylio disgyblion yn yr iard chwarae a chynnig cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau chwarae y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ôl yr angen;
  • gweini cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl yr angen.

Byddai'r unigolion llwyddiannus yn gweithio ar lawr yr ystafell ddosbarth 9.5 diwrnod allan o 10. Bydd un hanner diwrnod bob pythefnos yn cael ei roi i datblygiad proffesiynol ar ffurf:

  • rhaglen o ymweld ac arsylwi mewn lleoliadau amrywiol er mwyn gweld arfer da ar waith;
  • cymryd rhan mewn gweithdai a sgyrsiau addysgol gyda ffocws ar addysgeg a mecaneg addysg;
  • cymryd rhan mewn gweithdai addysgol gyda ffocws ar ddatblygu gyrfa a phrosesau adrodd personol a chymhwyso hyfforddiant cychwynnol athrawon ar gyfer prifysgolion.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig a chydwybodol ar gyfer swydd cynorthwywyr addysgu ar gyfer y prosiect blwyddyn gap. Mae’r allu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol i roi sail ieithyddol gadarn i’r plant.

Mae Ysgol Panteg a Charreg Lam wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Oriau: 32.5 awr yr wythnos

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22ain o Fai, 2026

Dyddiad cyfweliadau: 5ed o Fehefin, 2026


Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad. 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Panteg yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.