Ar gyfer Medi 2026 gyda chytundeb parhaol.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig a chydwybodol ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Panteg. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol i roi sail ieithyddol gadarn i’r plant.
Yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm arwain yr ysgol bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus:
- Weithio gyda thîm o staff gweithgar ac ymroddgar.
- Cynorthwyo yn nhrefniadaeth gyffredinol yr ystafell ddosbarth a all gynnwys:
- paratoi'r ystafell ddosbarth, derbyn disgyblion, trefnu a pharatoi defnyddiau, gosod a chlirio offer.
- Cynnal a chadw adnoddau ac offer a ddefnyddir mewn gweithgareddau.
- Rhoi cymorth i unigolion a grwpiau o ddisgyblion i sicrhau mynediad i ddysgu.
- Cynorthwyo'r athro wrth werthuso cynnydd disgyblion a chadw cofnodion yn unol â pholisïau ag ymarferion yr
- Cynorthwyo a goruchwylio disgyblion yn yr iard chwarae a chynnig cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau chwarae y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ôl yr angen
- Gweini cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl yr angen
Byddai un o’r cymwysterau isod yn fantais, ond croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr heb gymwysterau ond byddai’n fodlon derbyn hyfforddiant tra yn y swydd.
NVQ – Gofal Plant ac Addysg
Tystysgrif CACHE – Gofal Plant ac Addysg
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac fe fydd yr ysgol yn gofyn am gofnod manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Oriau: 37 awr yr wythnos - 39 wythnos y flwyddyn
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 22ain o Fai, 2026
Dyddiad cyfweliad: Dydd Gwener, 5ed o Fehefin, 2026
Lleolir yr ysgol ar waelod Pontypŵl sydd tua 25 munud o Gaerdydd.
Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Dr. Matthew Williamson-Dicken.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Mae Ysgol Panteg yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.