HYSBYSEB SWYDD
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
(cytundeb llawn amser a pharhaol)
Ar gyfer mis Ionawr 2025 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny
Cyflog: L8-L12
Mae'r llywodraethwyr yn dymuno penodi unigolyn angerddol a brwdfrydig i ymuno â ni fel ein CADY. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig a threfnus, ac a fydd yn arwain tîm o staff i sicrhau bod ein disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd da neu well mewn perthynas â'u pwyntiau cychwyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod darpariaeth ADY yn cael ei reoli'n effeithlon ac yn effeithiol, i sicrhau bod pob disgybl ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau rhagdysgu a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn, gan sicrhau cynllunio a darparu cymorth effeithiol ar gyfer disgyblion ag ADY, a gosod anghenion, barn, dymuniadau a theimladau'r disgyblion wrth wraidd y broses.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar weledigaeth ac uchelgais ac yn addysgwr rhagorol ac angerddol. Bydd yn medru cydweithio’n effeithiol gyda’r holl rhanddeiliaid gan osod esiampl gadarnhaol i staff a disgyblion.
Mae’n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Rhestrir prif fanylion cyfrifoldebau’r swydd yn y pecyn cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Os yn dymuno cael sgwrs bellach neu i drefnu ymweliad â’r ysgol cysyllter â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr drwy ddilyn y ddolen berthnasol sydd ar yr hysbyseb.
Dyddiad cau: Dydd Llun 23ain o Fedi 2024 (canol dydd)
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 30ain o Fedi 2024.
Cyflog: L8-L12
Mae’n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Safeguarding Statement:
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles disgyblion, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.