HYSBYSEB SWYDD
Athro / Athrawes
Ffiseg (cytundeb 0.4)
Ar gyfer mis Medi 2026
Swydd ran amser a pharhaol yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn dysgu Ffiseg gan ganolbwyntio ar Gyfnodau Allweddol 4 a 5 (os yn gymwys).
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu a chyfoethogi dulliau addysgu yn yr ysgol, yng nghyd-destun eu meysydd dynodedig, gan sbarduno ein disgyblion i ddatblygu fel dysgwyr creadigol, hyderus a gwybodus.
Bydd brwdfrydedd a hyblygrwydd yn allweddol i’r swydd bwysig hon.
Mae’n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Am fanylion pellach ynghylch y swydd, cysylltwch â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol
Gofynnwn i chi gyflwyno eich cais ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr.
Dyddiad cau: Dydd Llun 13eg o Ebrill (canol dydd).
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 20fed o Ebrill.
Cyflog: Prif Raddfa Cyflog
Mae’n ofynnol i bob deiliad swydd gael datgeliad manwl boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.