Athro/Athrawes Cynllun Pontio Cynradd/Uwchradd

Athro/Athrawes Cynllun Pontio Cynradd/Uwchradd

Employer
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Location
Sir Gaerfyrddin, Carmarthenshire
Contract Type
Fixed term contract
Hours
Full Time
Salary
Prif Raddfa Cyflog
Start Date
1st September 2026
Expires
12th April 2026 11:59 PM
Contract Type
Fixed term contract
Job ID
1538618
Job Reference
Eteach/PontioMedi2026
Start Date
1st September 2026
  • Contract Type :Fixed term contract
  • Contract Length: Blwyddyn
  • Job ID: 1538618

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog ar gyrion dwyreiniol Tref Caerfyrddin. Mae 910 o ddisgyblion yn yr ysgol bellach gyda 175 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o dref Caerfyrddin a phentrefi cyfagos yn ogystal â thalgylch eang ehangach.

Mae’r cynllun peilot yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

• Cynllunio gwersi

• Asesu, marcio ac adborth

• Rheolaeth ddosbarth

• Datblygu dycnwch

• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy e-bost erbyn y dyddiad cau, sef 23:59yh dydd Sul 12fed o Ebrill 2026. 

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner ar ôl gwyliau’r Pasg.

Anogwn i chi gysylltu â’r ysgol i dderbyn gwybodaeth am y cynllun cyn ymgeisio.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Dr Llinos Jones.

Attachments

Safeguarding Statement:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles disgyblion, pobl ifanc ac oedolion bregus ac mae disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.  Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin