Addysg Grefyddol

Coleg
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Prif/Uwch Raddfa a CAD 2c (£8060)
Dyddiad cychwyn
2nd September 2024
Yn dod i ben
24th Ebrill 2024 12:00 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1414465
Cyfeirnod y swydd
AddysgGref11
Dyddiad cychwyn
2nd September 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1414465

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasanaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2024 bydd tua 1000 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Yn adroddiad arolwg Estyn o’r ysgol fe’i disgrifiwyd fel ‘cymuned glòs iawn gydag ethos hynod ofalgar a chefnogol.’ Nodwyd hefyd fod ‘disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn rhagorol yn yr ysgol.

Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i arwain adran Addysg Grefyddol yr ysgol ac i gyfrannu tuag at ddatblygu cyrsiau’r dyniaethau yng Nghwricwlwm i Gymru.. Mae’n gyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu cwrs hygyrch a chyffrous er mwyn diwallu anghenion y disgyblion ar draws yr ystod oed a gallu.

Rhaid i’r ymgeiswyr:

▪ feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol

▪ meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg

▪ meddu ar sgiliau TGCh rhagorol

▪ bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant

▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol

▪ bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg

▪ meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.

Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA