ENDING SOON

Anogwr Dysgu CA3 / KS3 Learning Coach

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog: Gradd 4 (Pwyntiau 6–11, pro rata)
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
19th Mehefin 2026 01:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1559056
Cyfeirnod y swydd
Cynorthwy-ydd Dysgu
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: BLWYDDYN YN Y LLE CYNTAF
  • ID swydd: 1559056

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am Swyddog Bugeiliol CA3 brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’r tîm. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi disgyblion i gael mynediad llawn at ddysgu, gan weithio’n agos gydag athrawon a staff i sicrhau eu lles, eu cynhwysiant a’u datblygiad personol. Bydd y swydd yn cynnwys darparu cymorth yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol, gan helpu disgyblion i ymgysylltu’n llawn â’u haddysg. 

Bydd y person llwyddiannus yn cefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, yn helpu i reoli ymddygiad ac yn annog annibyniaeth a hunan-barch. Bydd disgwyl hefyd i’r ymgeisydd gefnogi athrawon drwy baratoi adnoddau, cadw cofnodion, cyfathrebu â rhieni/gofalwyr, a chyfrannu at weithgareddau ehangach yr ysgol, gan gynnwys goruchwylio disgyblion a chymryd rhan mewn ymweliadau addysgol. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm, ac ymrwymiad clir i gefnogi pobl ifanc. Dylai’r ymgeisydd feddu ar gymhwyster Lefel 2 perthnasol neu gyfwerth, ynghyd â dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygiad disgyblion a’r cwricwlwm. Mae nodweddion megis amynedd, hyblygrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol, ynghyd ag ymrwymiad i ddiogelu a chyfle cyfartal.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA