ATHRO / ATHRAWES CYFFREDINOL
(Cyfraniad o leiaf un pwnc STEM)
Contract: Un flwyddyn (o Fedi 2026)
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn dymuno penodi athro neu athrawes frwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â thîm staff cymwynasgar, uchelgeisiol a llwyddiannus yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn hyblyg ac eang ei sgiliau, a fydd yn gallu addysgu’n gyffredinol ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gyfrannu’n effeithiol at o leiaf un pwnc STEM (e.e. Gwyddoniaeth, Mathemateg, Technoleg, neu gyfraniad rhyngddisgyblaethol perthnasol).
Mae’r swydd yn gontract blwyddyn, gan gynnig cyfle gwerthfawr i weithio mewn ysgol uwchradd Gymraeg flaengar, sydd â ffocws clir ar safonau, lles a datblygiad proffesiynol staff.
Yr ymgeisydd delfrydol:
yn athro/athrawes cymwysedig neu ar ddiwedd hyfforddiant,
yn angerddol dros addysg cyfrwng Cymraeg,
yn dangos ymrwymiad cryf i addysgu o ansawdd uchel,
yn barod i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd a gweithgareddau ehangach yr ysgol,
ac yn awyddus i weithio fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol.
Gofynnir i ymgeiswyr nodi’n glir yn y cais y pynciau y gallant eu haddysgu, ac yn benodol eu cyfraniad posibl at faes neu feysydd STEM.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.