Athro / Athrawes Dylunio a Technoleg

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
Dyddiad cychwyn
4th January 2027
Yn dod i ben
2nd Rhagfyr 2026 10:00 AM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1587062
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates; Other Graduates; Apprentices
Cyfeirnod y swydd
Dylunio a Technoleg
Dyddiad cychwyn
4th January 2027
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 2 Tymor (4/1/27 - 31/8/27)
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates; Other Graduates; Apprentices
  • ID swydd: 1587062

Athro / Athrawes Dylunio a Thechnoleg (0.6)

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn dymuno penodi athro neu athrawes frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'r adran Dylunio a Thechnoleg am gyfnod penodol o ddau dymor. Bydd y swydd yn rhan-amser (0.6), gan weithio ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, gyda dyddiad dechrau o 4 Ionawr 2027 a'r contract yn rhedeg tan 31 Awst 2027.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Dylunio a Thechnoleg ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gyfrannu at ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a chefnogi cynnydd a lles pob disgybl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon cymwysedig sy'n meddu ar gymwysterau perthnasol mewn Dylunio a Thechnoleg, sgiliau addysgu effeithiol, ac ymrwymiad i hyrwyddo'r Gymraeg a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm cefnogol mewn ysgol Gymraeg sy'n datblygu'n gyflym ac sydd â disgwyliadau uchel ar gyfer llwyddiant pob disgybl.

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Bydd y penodiad yn amodol ar wiriadau recriwtio diogel priodol.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA