NEW

ATHRO/ATHRAWES CERDDORIAETH

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
MPS/UPS
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
Yn dod i ben
15th Mai 2025 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1480579
Cyfeirnod y swydd
ED50231862
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1480579

YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN

HEOL LLANEDEYRN

PENYLAN

CAERDYDD

CF23 9DT

Cyf: ED50231862

ATHRO/ATHRAWES CERDDORIAETH

GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa

DYDDIAD DECHRAU: MEDI 2025

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2024 mae dros 975 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn gryfderau penodol yn yr ysgol.

Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran flaengar a llwyddiannus. Addysgir cerddoriaeth ar draws y tri chyfnod allweddol a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu cerddoriaeth hyd at gyfnod allweddol 4 a cherdd perfformio hyd at gyfnod allweddol 5. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gyda phennaeth adran cerdd, ac o fewn maes y celfyddydau mynegiannol, sydd â gweledigaeth gadarn i ddatblygu cerddoriaeth ymhellach ar draws yr ysgol.

Rhaid i’r ymgeiswyr:

▪ feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol

▪ meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg

▪ meddu ar sgiliau TGCh rhagorol

▪ bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant ▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol

▪ bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg

▪ meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.

Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.

Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.

Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau:15/5/2025 hanner dydd

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:

• y rhai sy’n 25 oed ac iau;

• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;

• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA