Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn, Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Graddfa 3 SCP 3-6 (£24,796- £25,989) Pro Rata
Dyddiad cychwyn
3rd November 2025
Yn dod i ben
20th Hydref 2025 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1513824
Cyfeirnod y swydd
ED50222213
Dyddiad cychwyn
3rd November 2025
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 31st August 2026
  • ID swydd: 1513824

YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN

HEOL LLANEDEYRN

PENYLAN

CAERDYDD

CF23 9DT

Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Cyf: ED50222213

Dros dro tan 31/08/2026

Cyflog: Graddfa 3 SCP 3-6 (£24,796- £25,989) Pro Rata

32.5 awr yr wythnos – 39 wythnos y flwyddyn

Ar gyfer Tachwedd 2025

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 mae dros 965 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn gryfderau penodol yn yr ysgol.

Rhaid i’r ymgeiswyr:

▪ feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol

▪ meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg

▪ meddu ar sgiliau TGCh rhagorol

▪ bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant

▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol

▪ bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg

▪ meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd, neu am wybodaeth ychwanegol am yr ysgol, cysylltwch â’r Rheolwr Busnes, Lindsay Lewis.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais a gwblhawyd naill ai ar yr e-bost uchod neu drwy’r post at sylw: Miss Lindsay Lewis (Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Heol Llanedeyrn, Penylan, Caerdydd, CF23 9DT erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau: 12:00pm ddydd Llun, 20 Hydref 2025

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:

• y rhai sy’n 25 oed ac iau;

• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;

• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA