Cynorthwydd Dysgu (BESD) / BESD Learning Support

Cyflogwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Lleoliad
Caerdydd, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog: Gradd 5 (Pwyntiau 11–19, pro rata
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
26th Mehefin 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1560762
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
Cynorthwy-ydd Dysgu
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: BLWYDDYN YN Y LLE CYNTAF
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1560762

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am Gynorthwyydd Dysgu profiadol a rhagweithiol i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig ym maes BESD (ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol). Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth arbenigol i unigolion a grwpiau o ddisgyblion, gan weithio’n agos gyda staff addysgu i oresgyn rhwystrau i ddysgu a sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad llawn at addysg o safon.

Bydd y person llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu cynlluniau unigol, monitro cynnydd disgyblion, a darparu cymorth emosiynol a bugeiliol. Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd arwain ar elfennau o gefnogaeth ALN o fewn yr ysgol, cydweithio â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill, a chyfrannu at ddatblygu systemau, polisïau ac ymarfer effeithiol o ran ymddygiad, presenoldeb ac integreiddio disgyblion. 

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 3 perthnasol neu uwch, ynghyd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd addysgol neu gefnogol. Dylai’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, y gallu i weithio’n annibynnol ac arwain eraill, a dealltwriaeth gadarn o anghenion dysgu a datblygiadol disgyblion. Mae nodweddion megis amynedd, hyblygrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol, ynghyd ag ymrwymiad clir i ddiogelu a chyfle cyfartal.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Part of Cardiff LA

Cardiff LA