Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn gwahodd ceisiadau gan arweinwyr egnïol ac ysbrydoledig i ymuno â’n tîm fel Dirprwy Bennaeth. Dyma gyfle unigryw i gyfrannu at ddyfodol ysgol flaengar, gynhwysol ac uchelgeisiol sy’n credu’n angerddol mewn rhagoriaeth drwy’r Gymraeg.
Rydym yn edrych am arweinydd sy’n gallu gweld y darlun eang ac sy’n gallu troi gweledigaeth yn weithredu bob dydd—arweinwyr sy’n gallu dylanwadu, ysbrydoli a chreu newid cadarnhaol.
Pam Bro Edern?
Byddwch yn derbyn cefnogaeth allweddol i gamu i’r rôl newydd gan weithio’n agos iawn gyda Phennaeth Gweithredol, Pennaeth Ysgol a Dirprwy Bennaeth i sicrhau ymsefydlu llwyddiannus o fewn cymuned yr ysgol.
Yn Bro Edern, rydym yn gymuned glos sy’n meddu ar:
- Diwylliant uchelgeisiol, gyda ffocws diwyro ar welliant parhaus
- Dîm Arwain profiadol a chefnogol, sy’n cydweithio’n agos ac yn dryloyw
- Ymrwymiad cryf i addysg Gymraeg, hunaniaeth Gymreig a lles dysgwyr
- Cyfleoedd helaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol, mentora ac arweinyddiaeth uwch
Mae’r rôl hon yn addas i arweinwyr sydd â’r uchelgais i gamu i fyny, i ddylanwadu ar gynllunio strategol ysgol gyfan, ac i arwain staff a dysgwyr gyda hyder a chyfeiriad.
Y Rôl
Fel Dirprwy Bennaeth, byddwch yn:
- Arwain ar faes allweddol o gynllun gwella’r ysgol
- Ymgymryd â chyfrifoldebau strategol a gweithredol ysgol gyfan
- Cefnogi ac arwain ar hunanarfarnu, monitro ansawdd ac asesu
- Bod yn bresenoldeb cryf a chynhaliol yn y gymuned ysgol
- Arwain mewn absenoldeb y Pennaeth Ysgol / Pennaeth Gweithredol
- Hyrwyddo gweledigaeth clir o les, cynnydd ac uchelgais i bob dysgwr
- Cefnogi ethos, gwerthoedd a diwylliant cadarnhaol Bro Edern
Bydd meysydd penodol o gyfrifoldeb yn seiliedig ar broffil a chryfderau’r ymgeisydd—boed hynny mewn cwricwlwm, dysgu ac addysgu, amserlenni, data a chynnydd, ADY/CADY, neu les ac amrywiaeth.
Rydym am benodi rhywun sy’n:
- Yn arweinydd rhagorol sy’n gallu ysgogi, herio ac ysbrydoli
- Yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Yn meddu ar sgiliau addysgu rhagorol ac yn model rôl cadarn
- Yn dangos hanes o sicrhau cynnydd a chodi safonau
- Yn ymrwymedig i addysg Gymraeg ac ethos Bro Edern
- Â dealltwriaeth gref o ofynion Cwricwlwm i Gymru
- Yn adeiladwr perthnasoedd eithriadol gyda staff, dysgwyr, rhieni a’r gymuned
- Yn uchelgeisiol, yn sefydlog ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth
Ymweliad â'r ysgol
Rydym yn falch o gynnig cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, cwrdd â’r tîm a chael blas o’n cymuned ddysgu.
Dyddiadau ar gael: 24 neu 25 Mawrth.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.