YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN
HEOL LLANEDEYRN
PENYLAN
CAERDYDD
CF23 9DT
SWYDDOG PRESENOLDEB CLWSTWR BRO EDERN
Cyf: ED50222060
Parhaol
GRADDFA CYFLOG: GRADD 5, PWYNTIAU 11 – 19 (£28,142- £32,061) Pro Rata
PRO RATA 37 AWR YR WYTHNOS, 39 WYTHNOS Y FLWYDDYN
DYDDIAD DECHRAU: CYN GYNTED Â PHOSIB neu 3 Tachwedd 2025
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2025 bydd tua 975 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn gymuned glos ble mae disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal a bod yr ysgol yn creu diwylliant ac ethos o’r ysgol sy’n dysgu sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel. Dyfarnwyd fod lles a diwallu anghenion disgyblion, ynghyd â yn gryfderau penodol yn yr ysgol.
Mae Bro Edern yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i weithio ar draws y clwstwr fel swyddog presenoldeb. Dyma gyfle arbennig i weithio gyda theuluoedd a disgyblion er mwyn hyrwyddo presenoldeb uchel yn yr ysgol a chynorthwyo i oresgyn unrhyw rwystrau rhag dysgu a bod yn bresennol yn yr ysgol. Byddwch yn ymuno gyda thîm bychan ond ymroddgar o staff presenoldeb a theuluoedd y clwstwr sy’n gweithio tuag at ehangu gorwelion a chynyddu dyheadau rhai o’n teuluoedd mwyaf bregus.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod gydag awydd clir i weithio gyda phlant a phobl ifanc er mwyn gwneud gwahaniaeth i’w presenoldeb a’u datblygiad o fewn yr ysgol. Byddwn yn edrych am unigolyn dynamig sydd yn gweithio yn dda fel rhan o dîm ac sydd â’r weledigaeth fod addysg yn gwneud gwahaniaeth i fywyd a chyfleoedd plant a phobl ifanc.
Byddwn yn darparu hyfforddiant a chynhaliaeth i berson sy’n chwilio am ddatblygu gyrfa ym myd addysg.
Edrychwn am unigolyn fyddai’n frwd i gyfrannu yn llawn at fywyd allgyrsiol a chyfoethog y clwstwr.
Gwybodaeth Ychwaegol a’r Broses Ymgeisio
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.
Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad cau – 22/9/25 canol dydd
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
• y rhai sy’n 25 oed ac iau;
• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.