Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am Swyddog Presenoldeb ymroddedig a threfnus i gefnogi hyrwyddo presenoldeb da ar draws clwstwr cynradd yr ysgol. Bydd y person llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod disgyblion yn manteisio’n llawn ar eu haddysg, gan weithio’n agos gyda theuluoedd, staff ac asiantaethau allanol i gefnogi ymyriadau cynnar a gwella lefelau presenoldeb.
Bydd y rôl yn cynnwys monitro a dadansoddi data presenoldeb, dilyn absenoldebau heb eu hegluro, a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda rhieni/gofalwyr. Disgwylir hefyd cynnal ymweliadau cartref lle bo’n briodol, darparu arweiniad i deuluoedd, a sicrhau defnydd effeithiol o systemau TG i gynhyrchu adroddiadau a chefnogi gwaith yr ysgol, gan gydymffurfio â pholisïau diogelu, iechyd a diogelwch a chyfle cyfartal.
Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd presenoldeb i gynnydd disgyblion. Dylai’r ymgeisydd feddu ar gymwysterau sylfaenol da, sgiliau TG effeithiol a’r gallu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol, ac mae profiad perthnasol yn ddymunol.
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.