Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm o Gynorthwywyr Addysgu i gefnogi mynediad at ddysgu i ddisgyblion a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro wrth reoli grwp o ddisgyblion gydag ADY yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.
Mae pob penodiad yn amodol ar Ddatgeliad y Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Ms Haf Wildermuth, Cydlynydd ADY ar y Ysgol.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Brynhyfryd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.