Mae’r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi athro/athrawes Cymraeg ymroddedig ac egnïol i addysgu ar draws y cyfnodau allweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol rhagorol sydd yn gosod llwyddiant eu dysgwyr yn academaidd ac yn bersonol wrth wraidd ein hethos. Mae hyn i’w weld yng nghanlyniadau rhagorol ein dysgwyr a’r profiadau bythgofiadwy maent yn ei gael tra fod yn yr ysgol.
Mae’r llwyddiant hwn, ynghyd â’n lleoliad trawiadol a’n cysylltiadau teithio hwylus yn golygu y gallwn ddarparu cyfleoedd datblygu gyrfa gwirioneddol gyffrous mewn ysgol lle mae pob unigolyn yn cyfri. Croesewir ceisiadau gan ANG.
Mae pob penodiad yn amodol ar Ddatgeliad y Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Brynhyfryd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.